2015 Rhif 1919 (Cy. 285)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 47(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn rhoi’r pŵer i awdurdod lleol i drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu os yw’r awdurdod lleol yn cael cydsyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn achos llety yng Nghymru, neu’r grŵp comisiynu clinigol perthnasol yn achos llety yn Lloegr. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch trefniadau o’r fath.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer datrys anghydfodau rhwng awdurdod lleol a chorff iechyd ynghylch pa un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd ai peidio. Os yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd, mae adran 47(1) yn darparu nad oes gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster o’r fath, oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion y person, neu’n ategol at wneud hynny.

Mae rheoliad 3 yn pennu, at ddibenion adran 47(6) o Ddeddf 2014, y corff iechyd perthnasol y mae rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad ganddo er mwyn gwneud trefniadau i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a Bwrdd Iechyd Lleol neu grŵp comisiynu clinigol ynghylch pa un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd ai peidio, gan gynnwys anghydfodau ynghylch cymhwystra am Ofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hefyd yn pennu darpariaethau y mae rhaid eu cynnwys yn y trefniadau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


 

2015 Rhif 1919 (Cy. 285)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015

Gwnaed                            18 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 47(6)(a), 47(8)(a) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Darparu Gwasanaethau Iechyd) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “A” (“A”) yw person y mae arno angen gofal a chymorth o dan adrannau 35 i 45 o Ddeddf 2014;

mae i “corff iechyd” (“health body”) yr un ystyr ag yn adran 47(10) o Ddeddf 2014;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Gofal Iechyd Parhaus y GIG” (“Continuing NHS Healthcare”) yw pecyn gofal a drefnir ac a ariennir yn gyfan gwbl gan y gwasanaeth iechyd ar gyfer person 18 oed neu drosodd pan aseswyd mai angen iechyd yw prif angen y person;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([2]).

Y corff iechyd penodedig at ddibenion adran 47(6) o Ddeddf 2014

3.(1)(1) Pan fo awdurdod lleol, gan ddibynnu ar adran 47(6) o Ddeddf 2014, yn gwneud trefniadau i lety ynghyd â gofal nyrsio([3]) gan nyrs gofrestredig gael eu darparu, y corff iechyd y mae rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad ganddo yw—

(a)     pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yng Nghymru, y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal lle y darperir y llety;

(b)     pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal lle y lleolir yr awdurdod lleol hwnnw;

(c)     pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu lletya A yn Lloegr, y grŵp comisiynu clinigol cyfrifol.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, y grŵp comisiynu clinigol cyfrifol mewn cysylltiad ag unrhyw berson yw’r grŵp comisiynu clinigol sydd â chyfrifoldeb am drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig mewn cysylltiad â’r person hwnnw, yn unol â darpariaethau adran 3(1), (1A) ac (1E) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006([4]) ac unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 3(1B) neu (1D) o’r Ddeddf honno.

Trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau at ddibenion adran 47(8) o Ddeddf 2014

4.(1)(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch pa un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster o dan ddeddfiad iechyd ai peidio.

(2) Rhaid i drefniadau o’r fath gynnwys trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau ynghylch—

(a)     penderfyniadau o ran cymhwystra person am Ofal Iechyd Parhaus y GIG;

(b)     cyfraniad corff iechyd neu awdurdod lleol at becyn gofal ar y cyd i berson nad yw’n gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG.

(3) Rhaid i’r trefniadau gynnwys—

(a)     gweithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau o’r fath y cytunwyd arni â’r corff iechyd;

(b)     darpariaeth ar gyfer diwallu anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef wrth aros i’r anghydfod gael ei ddatrys;

(c)     gofyniad nad yw unrhyw anghydfod yn atal diwallu, yn achosi oedi cyn diwallu, yn ymyrryd â diwallu neu fel arall yn effeithio’n andwyol ar ddiwallu, anghenion y person y mae’r anghydfod yn ymwneud ag ef.

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2015

 



([1])           2014 dccc 4.

([2])           2006 p. 42.

([3])           Mae i “gofal nyrsio” yr ystyr a roddir yn adran 47(10) o Ddeddf 2014.

([4])           2006 p. 41.